Current Vacancies

Come and join the team

Foodbank Team

Cydlynydd Gwirfoddolwyr | Volunteer Coordinator

Applications for this post are now closed.

Current vacancies

Applications for this post are now closed.
Cydlynydd Gwirfoddolwyr | Volunteer Coordinator
 

Cydlynydd Gwirfoddolwyr

Lleoliad: Swyddfa Banc Bwyd Caerdydd, Canolfan Fusnes Bae Caerdydd (ger Canol Dinas Caerdydd)
Cyflog: £27,950, Parhaol, Amser llawn (35 awr yn ofynnol, gyda hyblygrwydd)
Gwyliau Blynyddol: 28 (ynghyd â Gwyliau Banc y DU)

Mae Banc Bwyd Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw un yng Nghaerdydd yn llwgu. Fel rhan o rwydwaith Trussell o fanciau bwyd, rydyn ni’n cynnig bwyd brys a chymorth i bobl sy'n wynebu caledi wrth ymgyrchu dros newid hirdymor. Mae ein gwaith yn bosib oherwydd ein tîm ymroddedig o dros 200 o wirfoddolwyr.

Rydyn ni’n chwilio am Gydlynydd Gwirfoddolwyr i arwain a datblygu ein rhaglen wirfoddoli, gan sicrhau bod pob gwirfoddolwr yn cael ei gefnogi, ei hyfforddi a'i ymgysylltu'n effeithiol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sy'n chwilio am rôl sy'n canolbwyntio ar bobl ac sy'n angerddol am gael effaith gadarnhaol ar bobl mewn angen ledled Caerdydd. 

Prif Gyfrifoldebau:

  • Arwain y gwaith o recriwtio, cynefino a hyfforddi gwirfoddolwyr, gan sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth dda yn eu rolau.
  • Gweithio'n agos gyda staff ac arweinwyr y gwirfoddolwyr i ddyrannu adnoddau a goruchwylio gweithgareddau’r gwirfoddolwyr.
  • Cefnogi'r gwaith o gydlynu ceisiadau gwirfoddoli corfforaethol a mentrau ymgysylltu cymunedol.
  • Sicrhau bod cofnodion gwirfoddolwyr yn cael eu cadw'n ddiogel yn unol â chanllawiau diogelu data.
  • Cyfathrebu'n rheolaidd â gwirfoddolwyr, gan roi adborth a chydnabod eu cyfraniadau.

Yr hyn y chwiliwn amdano:

  • Sgiliau da o ran trin pobl – y gallu i ennyn diddordeb, cefnogi ac ysgogi gwirfoddolwyr.
  • Sgiliau TG da – yn hyderus wrth ddefnyddio Microsoft Office a chronfeydd data.
  • Trefnus a rhagweithiol – yn gallu rheoli gwahanol dasgau yn effeithlon.
  • Trwydded yrru lawn y DU a mynediad at eich cerbyd eich hun – mae hyn yn hanfodol i ymweld â’n sesiynau banc bwyd.

Os ydych chi’n frwd dros gefnogi gwirfoddolwyr a gwneud gwahaniaeth go iawn, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych!

Dyddiad Cau: 23ain Mawrth 2025 (canol nos)
Cyfweliadau: 3ydd Ebrill 2025

Gweler y Disgrifiad Swydd llawn a'r Fanyleb Person am fwy o fanylion am y rôl.

Volunteer Coordinator

Location: Cardiff Foodbank Office, Cardiff Bay Business Centre (nr Cardiff City Centre)
Salary: £27,950, Permanent, Full-time (35 hours flexibility required)
Annual Leave: 28 (plus UK Bank Holidays)

Cardiff Foodbank is dedicated to ensuring that no one in Cardiff goes hungry. As part of the Trussell network of foodbanks, we provide emergency food and support to people facing hardship while campaigning for long-term change. Our work is made possible by our dedicated team of over 200 volunteers.

We are looking for a Volunteer Coordinator to lead and develop our volunteer programme, ensuring that all volunteers are effectively supported, trained, and engaged. This is an exciting opportunity for someone seeking a people-focused role and is passionate about making a positive impact to people in need across Cardiff. 

Key Responsibilities:

  • Lead the recruitment, induction, and training of volunteers, ensuring they are well-supported in their roles.
  • Work closely with staff and volunteer team leaders to allocate resources and oversee volunteer activities.
  • Support the coordination of corporate volunteering requests and community engagement initiatives.
  • Ensure volunteer records are maintained securely in line with data protection guidelines.
  • Communicate regularly with volunteers, providing feedback and recognising their contributions.

What We’re Looking For:

  • Strong people skills – ability to engage, support, and motivate volunteers.
  • Good IT skills – confident using Microsoft Office and databases.
  • Organised and proactive – able to manage multiple tasks efficiently.
  • Full UK driving licence and access to own vehicle – essential for visiting our foodbank sessions.

If you’re passionate about supporting volunteers and making a real difference, we’d love to hear from you!

Closing Date: 23rd March 2025 (midnight)
Interviews: 3rd April 2025

Please see the full Job Description and Person Spec for more details about the role.