About

About our foodbank / EIN BANC BWYD

Here is an introduction to our project.
Dyma gyflwyniad i’n project.

Cardiff Foodbank works to distribute food to people in Cardiff who are facing a financial crisis.

  • The foodbank has been established to provide short term, emergency food to individuals and families in crisis.
  • Our food parcels include cereal, milk, fruit juice, soup, pasta, meat, fish, vegetables and pudding, providing balanced and nutritional meals for a minimum of three days. The quantity of food given is dependent upon the number of adults and children in the family.
  • Clients are consulted on their basic dietary requirements e.g. vegetarian, gluten free, baby food etc. Outside of these requirements, our parcels are prepared according to nutritional recommendations from the Trussell Trust (in consultation with dieticians) and according to our stock levels. We are unable to offer bespoke orders to individual clients.

We currently have eight centres open for two hours once or twice a week, to find out your nearest one click on the locations tab above.

During your visit we will offer you a cup of tea and access to additional services dependent upon which service is available at the centre you visit.

The type of additional help we offer varies as we are reliant on the assistance of other organisations and currently receive no extra funding towards these;

  • Signposting assistance, this is provided by our volunteers and is available at all our centres.  The purpose of signposting is to assist people in receiving support to deal with any underlying issues such as debt or specific support needs.
  • Debt/general advice, this is provided by specialist workers from our partner organisations and therefore is not always available.  Where possible the service will provide an initial overview of the problem and offer ongoing support to people when appropriate.
  • Fresh bread and pastries, these are made possible by donations from Greggs and are available when supplies allow.

We are constantly striving to improve our services and if you have any ideas about how we can do that then please do not hesitate to get in touch.

We receive no government funds and we always welcome donations of both food and money to help us provide the service.  If you are interested in becoming involved more details can be found on the give help page.

Mae Banc Bwyd Caerdydd yn gweithio i ddosbarthu bwyd i bobl yng Nghaerdydd sy’n wynebu argyfwng ariannol.

  • Sefydlwyd y banc bwyd i ddarparu bwyd brys am gyfnod byr i unigolion a theuluoedd sydd mewn argyfwng.
  • Mae ein parseli bwyd yn cynnwys grawnfwyd, llaeth, sudd ffrwythau, cawl, pasta, cig, pysgod, llysiau a phwdin, gan ddarparu prydau cytbwys a maethol am o leia tri diwrnod. Bydd faint o fwyd y byddwn yn ei roi yn dibynnu ar sawl oedolyn a phlentyn sydd yn y teulu.
  • Byddwn yn sgwrsio â’n cleientiaid am eu hanghenion deietegol sylfaenol, e.e. llysieuol, di-glwten, bwyd babi a.y.y.b. Ar wahân i’r anghenion hyn, caiff ein parseli eu paratoi ar sail argymhellion maethol Ymddiriedolaeth Trussell (gan ymgynghori â deietegwyr) ac yn ôl lefelau ein cyflenwadau. Nid oes modd i ni ddarparu archebion personol ar gyfer cleientiaid unigol.

Ar hyn o bryd mae gennym wyth canolfan sydd ar agor am ddwy awr unwaith neu ddwywaith yr wythnos. I ddod o hyd i’ch canolfan agosaf cliciwch ar y tab lleoliadau uchod.

Yn ystod eich ymweliad cewch gynnig baned o de a mynediad at wasanaethau ychwanegol, yn dibynnu ar ba wasanaeth sydd ar gael yn y ganolfan y byddwch yn ymweld â hi.

Mae’r math o gymorth ychwanegol y gallwn ei gynnig yn amrywio gan ein bod yn dibynnu ar gefnogaeth sefydliadau eraill ac ar hyn o bryd nid ydym yn derbyn ariannu ychwanegol tuag at y rhain:

  • Cymorth cyfeirio: darperir hyn gan ein gwirfoddolwyr ac mae ar gael ym mhob un o’n canolfannau. Pwrpas cyfeirio yw cynorthwyo pobl i dderbyn cefnogaeth i ddelio â phroblemau sy’n pwyso arnynt megis dyled neu anghenion cynhaliaeth penodol.
  • Cyngor ar ddyled / cyngor cyffredinol: caiff hyn ei ddarparu gan weithwyr arbenigol ein partneriaid ac felly nid yw bob amser ar gael. Lle mae’n bosibl, bydd y gwasanaeth yn cynnig cyfle yn gyntaf i drafod y broblem yn gyffredinol gan gynnig cefnogaeth bellach i bobl lle bo hynny’n briodol.
  • Bara a theisennau: cwmni Greggs fydd yn darparu’r rhain ac maent ar gael pan fydd cyflenwadau’n caniatáu.

Rydym yn ceisio gwella ein gwasanaethau’n barhaus ac os oes gennych syniadau am sut y gallwn wneud hynny mae croeso i chi gysylltu â ni.

Nid ydym yn derbyn cyllid gan y llywodraeth a byddwn bob amser yn croesawu cyfraniadau bwyd a rhoddion ariannol i’n cynorthwyo i ddarparu’r gwasanaeth. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu’n ymarferol mae mwy o fanylion ar y dudalen cynorthwyo.

Back to About